2014 Rhif 3156 (Cy. 318 )

Y DIWYDIANT DŴR,   CYMRU A LLOEGR

Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru)  (Gwybodaeth am Feddianwyr nad ydynt yn Berchenogion) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan ymgymerwr y mae ei ardal yng Nghymru yn gyfan gwbl neu’n bennaf.

O dan adran 144C(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (p. 56), mae dyletswydd ar berchennog mangre breswyl nad yw’n byw yn y fangre honno i drefnu i’r ymgymerwr gael gwybodaeth am feddianwyr y fangre. Mae adran 144C(3) o’r Ddeddf honno yn darparu y bydd methiant gan y perchennog i ddarparu’r wybodaeth yn golygu y bydd y perchennog yn atebol gyda’r meddianwyr, ar y cyd ac yn unigol, am ffioedd dŵr a charthffosiaeth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sydd i gael ei rhoi am y meddianwyr ac am yr amseru a’r weithdrefn sy’n gysylltiedig â darparu’r wybodaeth honno.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

 

 


2014 Rhif 3156 (Cy. 318 )

Y DIWYDIANT DŴR,   CYMRU A LLOEGR

Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) (Gwybodaeth am Feddianwyr nad ydynt yn Berchenogion) 2014

Gwnaed                                 2 Rhagfyr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       3 Rhagfyr 2014

Yn dod i rym                           1 Ionawr 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 144C(4) ac 8(b) ac adran 213(2)(f) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991([1]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Diwydiant Dŵr (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) (Gwybodaeth am Feddianwyr nad ydynt yn Berchenogion) 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan ymgymerwr y mae ei ardal yng Nghymru yn gyfan gwbl neu’n bennaf.

(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2015.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y diwrnod cychwyn” (“the commencement day”) yw’r dyddiad y mae’r ddyletswydd yn gymwys o ganlyniad i erthygl 2 o Orchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 9) 2014([2]);

ystyr “y ddyletswydd” (“the duty”) yw’r ddyletswydd a osodir yn rhinwedd adran 144C(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.

Yr wybodaeth sydd i gael ei darparu am feddianwyr nad ydynt yn berchenogion

3.(1) Mae’r wybodaeth sydd i gael ei rhoi gan y perchennog i’r ymgymerwr am y meddianwyr fel a ganlyn—

(a)     eu henwau llawn;

(b)     eu dyddiadau geni (pan fo’r wybodaeth honno wedi ei darparu i’r perchennog);

(c)     y dyddiad neu’r dyddiadau y dechreuodd y meddianwyr feddiannu’r fangre (os yw’r dyddiad hwnnw ar ôl y dyddiad cychwyn).

(2) Nid yw’r wybodaeth sydd i’w rhoi o dan baragraff (1) yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy’n meddiannu’r fangre.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed.

Hysbysu’r meddiannydd nad yw’n berchennog

4. Cyn i berchennog ddarparu gwybodaeth i ymgymerwr, rhaid iddo hysbysu’r meddiannydd y bydd yr wybodaeth honno yn cael ei darparu.

Amseru

5.(1) Mae perchennog yn methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd os nad yw’r wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) yn cael ei rhoi o fewn 21 o ddiwrnodau i—

(a)     y diwrnod cychwyn;

(b)     y dyddiad y mae meddiannydd yn dechrau meddiannu’r fangre.

(2) Mae methiant perchennog yn dod i ben pan fydd yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) yn cael ei rhoi i’r ymgymerwr (ni waeth a roddir yr wybodaeth gan y perchennog neu gan rywun arall).

Gweithdrefn                                  

6. Rhaid i’r wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 3(1) gael ei darparu i ymgymerwr drwy’r post, dros y ffôn, dros e-bost neu drwy’r Porthol Cyfeiriadau Landlordiaid a Thenantiaid yn www.landlordtap.com.

 

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol,

un o Weinidogion Cymru

2 Rhagfyr 2014



([1])           1991 p. 56. Mewnosodwyd adran 144C o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (“Deddf 1991”) gan adran 45 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29). Mae’r pŵer wedi ei roi gan adran 144C(4) i “the Minister” a ddiffinnir at y dibenion hyn gan adran 144C(8)(b) o Ddeddf 1991. Mae adran 144C(8)(b) o Ddeddf 1991 hefyd yn pennu, at ddiben adran 144C, fod adran 213 yn gymwys gyda chyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol a’r naill Dŷ neu’r llall o Senedd y Deyrnas Unedig yn cael eu hystyried yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, yn y drefn honno.

([2])  O.S. 2014/3155 (Cy.317) (C.137)